Mae Anthem yn elusen gofrestredig ac mae’n dibynnu ar eich cefnogaeth chi. Os ydych yn rhannu ein huchelgais hirdymor i greu gwaddol cerddoriaeth cenedlaethol i Gymru, sy’n cael ei yrru gan yr awydd i ailgynnau a chynnal diwylliant bywiog a mwy cydnerth i bob genre o gerddoriaeth ac i bob person ifanc yng Nghymru, gallwch ein helpu i greu amgylchedd lle gall diwylliant a threftadaeth cerddoriaeth Cymru ffynnu drwy ystyried gadael rhodd yn eich ewyllys. Bydd y gwaddol yn ariannu’r genhedlaeth hon o bobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol, a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda hwy, drwy ein rhaglen creu grantiau a’n prosiectau.
Ystyried gadael rhodd yn eich ewyllys, ar ôl i chi ofalu am eich teulu a’ch ffrindiau, yw un o’r gweithredoedd pwysicaf a mwyaf gwerthfawr y gallwch wneud. Gall eich rhodd fod yn rhan o waddol parhaol a fydd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth, a hyd yn oed y seren nesaf.
Gall fod mor syml â chanran o’ch ystâd neu swm penodol i gefnogi’r gwaith drwy’r Gwaddol. Gyda’n gilydd, bydd yr effaith a gawn yn sylweddol.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn o gwbl, da chi cysylltwch â ni er mwyn i ni eich helpu. Cysylltwch â Rhian Hutchings ein Prif Weithredwr ar rhian.hutchings@anthem.wales
Os ydych eisoes wedi gadael rhodd yn eich ewyllys i Anthem, neu’n penderfynu gwneud hynny, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiolch i chi a dangos sut bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Hoffem hefyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â phopeth sydd ar y gweill gan Anthem. Diolch am ystyried cefnogi Gwaddol Anthem drwy adael rhodd yn eich ewyllys.
Mae rhodd mewn ewyllys, sydd hefyd yn cael ei alw’n waddol, yn golygu swm o arian, canran o ystâd, neu eitem benodol, sy’n cael ei adael yn ewyllys rhywun. Mae rhodd mewn ewyllys yn ffordd arbennig i bobl sicrhau bod y pethau sy’n bwysig i bobl ar gael i genedlaethau’r dyfodol eu profi a’u mwynhau.
Dylai pawb ystyried gwneud ewyllys. Dyma bum rheswm da i wneud ewyllys
· Gwneud yn siŵr bod eich dymuniadau’n cael eu gwireddu
Gall ewyllys ar ei ffurf ddiweddaraf roi tawelwch meddwl i chi bod gofal yn cael ei roi i’r bobl a’r achosion sydd bwysicaf i chi yn ôl eich dymuniad chi.
· Ei gwneud yn haws i ffrindiau a pherthnasau
Drwy roi cysur a sicrwydd iddynt eu bod yn gweithredu yn unol â’ch dymuniadau chi, a’u helpu i gymryd gofal o’ch ystâd.
· Rhoi eich asedau i’r bobl a’r achosion sy’n annwyl i chi
Heb ewyllys, bydd yr hyn sy’n digwydd i’ch ystâd yn cael ei bennu gan reolau llym y gyfraith heb fod gennych unrhyw reolaeth.
· Diogelu eich partner os nad ydych yn briod
Nid oes gan bartneriaid dibriod hawl i unrhyw beth o’ch ystâd oni bai ei fod wedi’i nodi’n benodol yn eich ewyllys, waeth am ba mor hir rydych wedi bod gyda’ch gilydd.
· Lleihau treth etifeddiant
Gall ewyllys hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio treth ac nid oes treth i’w thalu ar roddion i elusennau felly gallai rhodd yn eich ewyllys leihau eich atebolrwydd treth. Rydym bob amser yn argymell y dylech dderbyn eich cyngor cyfreithiol ac ariannol proffesiynol eich hun.
Cyfran o’ch ystâd. Gall canran fach ar ôl i chi ofalu am y bobl sy’n annwyl i chi wneud gwahaniaeth enfawr i’ch hoff elusennau. Caiff hyn ei alw’n ‘rhodd weddilliol’.
Swm penodol o arian. Mae hyn yn golygu gadael swm union i ni. Mae’n cael ei alw’n ‘rhodd ariannol’.
Bydd ar eich cyfreithiwr angen ein cyfeiriad cofrestredig a’n manylion fel elusen
Anthem. Cronfa Gerdd Cymru
Bute Place, Caerdydd, CF10 5AL
Rhif elusen gofrestredig 1182024
Rydym bob amser yn argymell defnyddio cyfreithiwr neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol os ydych yn meddwl am wneud neu newid eich ewyllys. I gael mwy o wybodaeth am ysgrifennu eich ewyllys, gan gynnwys manylion cyfreithwyr yn eich ardal leol, gallwch fynd i wefan:
Cymdeithas y Cyfreithwyr
thelawsociety.org.uk
020 7242 1222
Mae elusen yn ddogfen gyfreithiol, felly i wneud yn siŵr y bydd eich dymuniadau’n cael eu gwireddu, rydym yn cynghori eich bod yn gwneud neu’n newid eich ewyllys gyda chymorth cyfreithiwr neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol.
Ewyllys – Dogfen sy’n rhwymo yn y gyfraith sy’n gosod allan pwy ddylai etifeddu eich ystâd pan fyddwch yn marw.
Buddiolwr – person neu elusen sy’n elwa o dan delerau’r ewyllys
Becwêdd/Cymynrodd – rhodd mewn ewyllys
Becwêdd neu rodd ariannol – rhodd o swm penodol o arian. Anfantais rhodd o’r fath yw, oherwydd chwyddiant, gallai gwerth y rhodd leihau dros amser.
Becwêdd neu rodd weddilliol – rhodd o’r cyfan neu ganran neu gyfran o’ch ystâd ar ôl caniatáu ar gyfer treuliau a rhoddion ariannol a phenodol. Mantais rhodd o’r fath yw ei bod yn cynnal ei gwerth go iawn, chwyddiant neu beidio.
Becwêdd neu rodd benodol – rhodd o erthygl neu eitem a enwir
Codisil – Dogfen sy’n gwneud newid syml i’ch ewyllys. Rhaid iddo gael ei lunio’n gyfreithiol yng ngŵydd tyst.
Ewyllysiwr – Person sydd wedi gwneud ewyllys
Tyst – Rhaid i ddau dyst eich gweld yn llofnodi eich ewyllys a rhaid i chi eu gwylio eu dau yn ei llofnodi, a rhaid iddynt hwy eu gwylio ei gilydd yn ei lofnodi hefyd.
Ysgutor – Person(au) a benodir mewn ewyllys i weinyddu’r ystâd
Diewyllys – Person sy’n marw heb ewyllys
Profiant – Proses swyddogol i brofi dilysrwydd yr ewyllys a chaniatáu i’r Ysgutorion weinyddu’r ystâd
Treth Etifeddiant – Treth sy’n daladwy ar werth asedau adeg marwolaeth yn uwch na throthwy a osodir gan Gyllid y Wlad. Nid oes yn rhaid talu treth ar roddion i elusen a chaiff y rhoddion eu tynnu oddi ar werth net yr ystâd cyn cyfrifo atebolrwydd treth etifeddiant.
Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru
lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.