Yr hyn a wnawn

Mae Anthem yma i gynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru i greu, dysgu a dathlu cerddoriaeth, a phrofi’r manteision a all newid bywydau.

Rydym yn eu cynorthwyo hwy, a’r rhai sy’n gweithio gyda hwy, drwy gyllido, partneriaethau a mentrau.

Dyma beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Fforwm Ieuenctid Anthem

Mae Fforwm Ieuenctid Anthem yn rhoi lle i bobl ifanc archwilio diwydiant cerddoriaeth a llais i ddylanwadu ar faterion allweddol yn ymwneud â cherddoriaeth a phobl ifanc yng Nghymru.

Ymchwil

Rhan allweddol o waith Anthem yw lobïo dros ymchwil i effaith cerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru, ac arwain ar y gwaith ymchwil yma. Byddwn yn gwneud hyn mewn partneriaeth â phobl ifanc a sefydliadau eraill y sector. Darllenwch ein hadroddiadau ymgynghori a dewch o hyd i waith ymchwil perthnasol arall yma.

Gwneud cais am arainu

Mae Anthem yn cynnig cyllid i sefydliadau i redeg prosiectau creu cerddoriaeth neu greu cyfleoedd dilyniant gyrfa gerddoriaeth yng Nghymru.

Podlediad Amplify

Mae Amplify yn archwilio gwerth cerddoriaeth i bobl ifanc ac yn cyfarfod â’r cerddorion a’r sefydliadau sy’n rhoi o’u hamser i wella bywydau pobl ifanc drwy gerddoriaeth yng Nghymru.

Porth Anthem

Mae Porth Anthem yn adnodd sy’n archwilio diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a grëwyd gan bobl ifanc greadigol ar gyfer pobl ifanc Cymru.

Newyddion Anthem

Edrychwch ar y newyddion Anthem diweddaraf yma.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol a dewch yn rhan o rywbeth mawr

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.