- By Rhian Hutchings
- 2021-04-28
- 0 Comments
Yn cyflwyno... Aelod Fforwm Ieuenctid Anthem, Charys Bestley
Aelod o Fforwm Ieuenctid Anthem, Charys Bestley, sy’n sôn wrthym ni am ei gwaith fel ffotograffydd a chynrychiolydd sioeau a’i phrofiad gydag Anthem, ac yn rhannu rhai enghreifftiau o’i gwaith.
Ffotograffydd a chynrychiolydd sioeau ydw i, ac rwy’n gweithio’n bennaf i Orchard Entertainment. Rwy’n seiliedig yng Nghaerdydd ac rwy wedi perfformio fel aelod o fand o’r enw Peaks mewn llawer o leoliadau ledled de Cymru.
Rwy wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda nifer o leoliadau ac artistiaid yma yn ne Cymru! Rwy wrth fy modd yn tynnu lluniau digwyddiadau cerddoriaeth byw a digwyddiadau hyrwyddo yn ymwneud â cherddoriaeth. Beth bynnag yw maint y llwyfan neu bwy sydd arno, rwy yn fy elfen yn tynnu lluniau’r sioeau!
Ar hyn o bryd, rwy’n tynnu lluniau gan ddefnyddio Canon 6D a lens 35mm/50mm lens. Efallai na fyddai llawer yn ystyried y rhain yn ‘gamera neu lens proffesiynol’, ond nid bod â’r offer gorau sy’n cyfri! Mae’n fater o fod â llygad am lun da a’ch dealltwriaeth o’ch offer!
Ar ôl graddio â Gradd Dosbarth Cyntaf er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth, fe wnes i hyfforddi i fod yn gynrychiolydd sioeau, ac mae hyn bellach yn golygu fy mod i’n gweithio yn y cefndir yn paratoi ystafelloedd gwisgo, rhedeg sioeau a gofalu am artistiaid fel Cyswllt Artistiaid. Rwy hefyd wedi hyfforddi ym maes y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus ym myd radio. Fy nod yw dysgu cymaint â phosib am y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru!
Mae perfformio yn fwy o hobi, ond rwy’n dwlu ar ganu a chwarae gitâr, ac rwy’n gweithio ar brosiect unigol ar hyn o bryd.
Rwy wedi bod wrth fy modd yn gweithio gydag Anthem. Rwy wedi cwrdd â phobl ryfeddol, ac wedi gallu rhwydweithio a bod yn rhan o ddatblygu cynllun hanfodol i helpu pobl ifanc greadigol yng Nghymru. Bu’n brofiad bythgofiadwy, ac rwy wedi dysgu gwybodaeth ddefnyddiol am frandio, sîns cerddoriaeth Cymru, a sut mae elusen ieuenctid yn cael ei datblygu. Rwy’n gobeithio bod yn rhan o Anthem am lawer o flynyddoedd am y bydd y gwaith y byddan nhw’n ei wneud yn amhrisiadwy i bobl ifanc yma!
Ffotograffau Charys o artistiaid o Gymru sydd isod: These Five Years, Chroma, Rebecca Hurn, Bonnie Tyler a Junior. Hawlfraint pob llun: Charys Bestley Photography.