- By Rhian Hutchings
- 2021-04-17
- 0 Comments
Y bobl ifanc sy’n helpu Anthem i ffurfio ei dyfodol
Mae deuddeg o bobl ifanc o Gymru yn gweithio gydag Anthem i rannu eu barn a’u profiadau a helpu i ffurfio gwaith Anthem yn y dyfodol. Gwnaeth Fforwm Ieuenctid Anthem gyfarfod am y tro cyntaf ar ddechrau mis Chwefror a bydd yn parhau i gyfarfod yn wythnosol dros y ddau fis nesaf.
Mae’r deuddeg o bobl ifanc, rhwng 18 a 25 oed, yn cynrychioli amrywiaeth o genres a phrofiadau cerddorol, gan gynnwys cantorion / cyfansoddwyr caneuon, offerynwyr clasurol, cerddorion roc, rapiwr, cynhyrchwyr cerddoriaeth a rhai sy’n gweithio yn y diwydiant cerdd.
Maen nhw’n gweithio gyda Phrif Weithredwr, bwrdd a thîm llawrydd Anthem, i adnewyddu brand a gwefan Anthem, creu storïau digidol am eu profiadau, a dechrau ffurfio sut gall pobl ifanc gael eu cynnwys yng ngwaith Anthem wrth iddo ddatblygu. Penllanw eu gwaith cychwynnol fydd digwyddiad ar-lein i bobl ifanc sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru ym mis Ebrill.
Mae’r gwaith yn adeiladu ar ymgynghoriad ieuenctid ehangach a gynhaliwyd ym mis Mai a mis Mehefin 2020. Sgroliwch lawr i ddarllen yr eitem newyddion am hyn (mae ein gwefan newydd, haws i’w llywio, ar y gweill!).
Dyma’r Fforwm Ieuenctid:
● Andrew Ogun – cerddor, ysgrifennwr, cyfarwyddwr creadigol ac ymgyrchydd
● Archie Howat – cynhyrchydd cerddoriaeth, rhedeg stiwdio recordio ac yn rhyddhau ei gerddoriaeth ei hun
● Blank Face (Joshua Whyte) – canwr/cyfansoddwr caneuon
● Charys Bestley – cynorthwyydd digwyddiadau llawrydd, cynrychiolydd sioeau a ffotograffydd
● Chloe Jane Lovell – feiolinydd, aelod o gerddorfa, myfyriwr Cerddoriaeth blwyddyn gyntaf, Prifysgol Caerdydd
● Dafydd Griffiths – aelod o fand (gitâr), myfyriwr cerddoriaeth yng Ngholeg Glynebwy
● Ella Pearson – oböydd, myfyriwr Perfformio Cerddoriaeth 3edd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
● Gabriel Bernal – myfyriwr Busnes Cerddoriaeth, Prifysgol De Cymru
● James Prendergast – hyrwyddwr digwyddiadau byw, cyflwynydd sioe radio, rheolwr artistiaid
● Kyle Jones / Qye – cynhyrchydd cerddoriaeth, pianydd, gitarydd
● Mr X – creu, cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth, astudio gyda Forget-Me-Not-Productions
● Tayla-Leigh Payne – cyfansoddwr a myfyriwr Cyfansoddi blwyddyn olaf yn CBCDC
Ynglŷn ag Anthem
Sefydlwyd Anthem. Cronfa Gerdd Cymru Music Fund Wales yn 2018 yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru a oedd yn archwilio ffyrdd i gynorthwyo pobl ifanc sy’n creu ac yn dysgu cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r elusen yn awr ar gam cyffrous yn ei datblygiad, wedi i Brif Weithredwr amser llawn gael ei phenodi yn hydref 2020. Mae hithau’n dwyn grŵp o ymddiriedolwyr a thîm ynghyd i weithio tuag at weledigaeth a chenhadaeth Anthem.