Tîm Anthem

Ein tîm

Mae Anthem yn cael ei gyrru gan fwrdd o ymddiriedolwyr a thîm o staff craidd,
gyda chymorth ein haelodau a’n fforwm ieuenctid.

CROP IMG_9774

Rhian Hutchings

Prif Weithredwr Anthem rhian.hutchings@anthem.wales Ymunodd Rhian ag Anthem Cronfa Gerdd Cymru yn 2020. Mae’n gyfarwyddwr opera, cynhyrchydd creadigol a chysylltydd sydd ag angerdd am bobl ifanc a cherddoriaeth. Bu Rhian yn weithgar yn y sector cerdd cyfranogol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan sefydlu Operasonic yng Nghasnewydd, ac arwain y tîm Ieuenctid a Chymunedol yn Opera Cenedlaethol Cymru am saith mlynedd, a gyrru Partneriaeth ArtWorks Cymru i archwilio sut i ddatblygu’r sector.

Rebecca crop

Rebecca Rickard

Rheolwr Rhaglen rebecca.rickard@anthem.wales

Becca 1

Rebecca Hobbs

Rheolwr Codi Arian rebecca.hobbs@anthem.wales

Tori 4×4

Tori Sillman

Rheolwr Marchnata
communications@anthem.wales

Sarah 4×4

Sarah Sweeney

Rheolwr Prosiect Fforwm Ieuenctid projectmanager@anthem.wales

Ein fforwm leuenctid

Mae Fforwm Ieuenctid Anthem yn cwrdd yn rheolaidd i gefnogi gwaith Anthem.

Ein hymddiriedolwyr

Yr hyn sy’n uno ymddiriedolwyr Anthem yw angerdd am gerddoriaeth a phobl ifanc. Maen nhw’n ffurfio’r strategaeth sefydliadol ac yn arwain ein gweithgarwch codi arian.

AledWaltersCrop

Aled Walters

Mae Aled yn bartner corfforaethol yn Hugh James ac yn bennaeth y tîm masnachol. Mae gan Aled arbenigedd penodol ym meysydd gemau, technoleg a’r cyfryngau ac yntau wedi bod yn gweithio’n fewnol yn S4C ac S4C Rhyngwladol. Mae Aled hefyd yn bennaeth y tîm technoleg, y cyfryngau a thelathrebu ac yn aelod o fwrdd rheoli is-adrannol y cwmni. Arferai fod yn aelod o bwyllgor archwilio’r cwmni. Mae Aled yn cynghori ar faterion corfforaethol a masnachol, ac yn aml yn cynghori ar gytundebau masnachol cymhleth ac uchel eu gwerth. Mae ganddo brofiad sylweddol o gynghori ar gontractau a tharo bargeinion cymhleth sydd â dimensiwn aml-awdurdodaeth. Mae ganddo enw da yn rhyngwladol am ei waith a chaiff ei ystyried yn ‘Arweinydd yn ei faes’ mewn cyfeirlyfrau cyfreithiol. Mae gan Aled rôl weithgar ym maes diwydiannau’r cyfryngau y tu allan i Hugh James. Mae hyn yn cynnwys bod yn aelod o’r Gymdeithas Deledu Frenhinol ac mae hefyd yn Aelod Proffesiynol o Pact. Mae hefyd yn gerddor lled-broffesiynol. Ac yntau’n siaradwr Cymraeg rhugl, mae Aled yn weithgar iawn yn hybu treftadaeth Cymru a’r Gymraeg. Mae’n Ymddiriedolwr a Chwnsler Anrhydeddus Urdd Gobaith Cymru ac yn Ymddiriedolwr Menter Caerdydd. Y mae hefyd yn gyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Ein tîm

Catrin Hughes Roberts

Catrin Hughes Roberts yw Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C. Mae ganddi gefndir cyfathrebu a phrofiad materion allanol ar lefelau datganoledig, San Steffan a'r UE. Catrin sy'n arwain ar waith materion cyhoeddus a phartneriaethau S4C, yn ogystal â chefnogaeth y darlledwr i sgiliau a hyfforddiant ar gyfer y sector sgrin. Mae'n goruchwylio gwaith amrywiaeth S4C ac mae'n aelod o fwrdd Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol (CDN) darlledwyr y DU. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor RTS Cymru. Cyn ymuno ag S4C, bu Catrin yn gweithio yn nhîm materion corfforaethol y BBC yn Llundain a threuliodd amser hefyd gyda BBC Cymru Wales a BBC Worldwide. Mae hi wedi gweithio fel ymgyrchydd yn y trydydd sector, ac yn seneddau Ewrop a'r DG . Mae Catrin yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn mwynhau dysgu ieithoedd eraill hefyd (ond ychydig yn rhydlyd.) Teimla’n teimlo’n angerddol dros gerddoriaeth a’i rôl bwysig mewn llesiant a datblygiad. Mae hi’n mwynhau drysu ei ffôn drwy wrando ar bopeth - o Beethoven i ganu gwerin i Queen, hip-hop a mwy.Catrin leads on S4C’s public affairs work, and its partnerships, as well as the broadcaster’s support for skills and training for the screen sector. She oversees S4C’s diversity work and is a board member of the Creative Diversity Network of UK broadcasters. She is also an RTS Cymru committee member. Before joining S4C, Catrin worked in the BBC’s corporate affairs team in London and also spent time with BBC Cymru Wales and BBC Worldwide. She has previously worked as a campaigner in the third sector, and in the European and UK parliaments. Catrin is a fluent Welsh speaker with a smattering of other (slightly rusty) languages too. She is passionate about music and the role it can play in wellbeing and development. Catrin likes confusing algorithms with her slightly eclectic listening ranging from Beethoven to folk, Queen, hip-hop and beyond.

fullsizeoutput_22c

David Alston M.B.E. (Cadeirydd)

Roedd David yn Gyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2005 a 2019. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu’r celfyddydau, strategaeth, gwaith rhyngwladol, gwyliau celfyddydol a phrosiectau cysylltiedig. Arweiniodd waith ar strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2014-18, sef Ysbrydoli: Ein Strategaeth ar gyfer Creadigrwydd a’r Celfyddydau yng Nghymru, ac ar waith â Llywodraeth Cymru, a sbardunwyd gan y syniad o Waddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yng Nghymru. Mae ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn cynnwys sawl genre. Yn ei flynyddoedd fel Cyfarwyddwr y Celfyddydau, datblygodd faint o waith a buddsoddiad a wnaeth Cyngor Celfyddydau Cymru mewn rhagor o fathau o gerddoriaeth gan godi proffil y gerddoriaeth. Cyn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru, arweiniodd David y gwaith o ddatblygu sefydliad Lowry yn ystod ei flynyddoedd cychwynnol yn Salford, ac yn 1990 fe’i penodwyd yn Warcheidwad Celf, ac am gyfnod bu’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn Amgueddfa Cymru.

Deborah-Keyser-IMG_5540-copy

Deborah Keyser

Mae Deborah Keyser wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Tŷ Cerdd ers mis Tachwedd 2016, ar ôl symud o'i rôl fel Cyfarwyddwr gyda Creu Cymru (yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru), lle bu'n gweithio ers 2005. Fe'i ganwyd ac fe'i magwyd yng Nghymru, a bu'n astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn symud i wneud gradd ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cerddorfaol yng Ngholeg Goldsmiths (Prifysgol Llundain) a dechrau ei gyrfa'n gweithio yn y BBC (Radio 3 a chylchgrawn BBC Music Magazine). Wedi hynny, treuliodd gyfnod ym meysydd rheoli cerddorfeydd a chynhyrchu operâu, ynghyd â chyfnod mewn asiantaeth newyddion yn Llundain – cyn i asiantaeth Creu Cymru ei denu'n ôl i Gymru yn 2005. Tan 2011, bu Deborah yn gweithio hefyd ar ddigwyddiad cerddoriaeth gyfoes blynyddol blaenllaw Cymru, sef Gŵyl Bro Morgannwg (y mae hi'n eistedd ar ei gyngor rheoli bellach). Mae hi'n ymddiriedolwr i Ŵyl Llanandras a Sinfonia Cymru, ac mae hi ar bwyllgor gweithredol IAMIC (Cymdeithas Ryngwladol Canolfannau Gwybodaeth Cerdd). Ar hyn o bryd mae'n ddarpar Lywydd i Gymdeithas Gorfforedig y Cerddorion (ISM). Welsh born-and-bred, Deborah studied music at Cardiff University and postgraduate Orchestral Studies at Goldsmiths’ College (University of London), before starting her career working at the BBC (Radio 3 and BBC Music Magazine). A period in orchestral management and opera production followed, as well as a stint at a London news agency – before Creu Cymru brought her back to Wales in 2005. Until 2011, Deborah also worked on Wales’s flagship annual contemporary music event, the Vale of Glamorgan Festival (for whom she now sits on the council of management). She is a trustee of the Presteigne Festival and Sinfonia Cymru, and is on the executive committee of IAMIC (the International Association of Music Information Centres). She is the current President-Elect of the Incorporated Society of Musicians (ISM).

Gwenda Carnie

Gwenda Carnie

Mae Gwenda yn gyfreithiwr cyfryngau ac adloniant wedi’i hyfforddi yn y ddinas, sydd bellach yn bartner mewn cwmni cynghori arbenigol ar faterion masnachol a busnes y cyfryngau, Industry Media. Mae ei sgiliau yn cynnwys gwneud bargeinion a chyngor masnachol a hawlfraint i bobl yn y diwydiannau creadigol. Mae Gwenda wedi cynghori pobl greadigol ers dros 20 mlynedd ac mae ganddi brofiad o fusnes Cerddoriaeth, gan gynnwys rôl gyfreithiol yn MTV Networks Europe a rôl fel cynghorydd cyfreithiol a materion busnes i Adran Gerdd BBC Cymru. Mae Gwenda yn siarad Ffrangeg a Chymraeg yn rhugl ac yn byw yn y Barri gyda’i gŵr, 3 o blant cerddorol (2 gitarydd a thelynores).

Gareth Williams

Gareth Williams

Mae Gareth Williams wedi bod yn Brif Weithredwr Rondo Media ers 2008. Mae grŵp Rondo yn cynhyrchu dramâu, rhaglenni chwaraeon, rhaglenni cerddoriaeth, digwyddiadau a rhaglenni ffeithiol ar gyfer amrywiaeth eang o ddarlledwyr gan gynnwys S4C, BBC 1 a Channel 4. Dechreuodd ei yrfa fel cynhyrchydd dan hyfforddiant gyda’r BBC ac ymunodd â’r cwmni cynhyrchu annibynnol Opus yn 2001, lle y bu’n gyfrifol am gynhyrchu sawl rhaglen ddogfen, cyngerdd a chynyrchiadau opera a ffilmiwyd yn eu cyfanrwydd gan gynnwys Falstaff gyda Bryn Terfel. Fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr Opus yn 2006 cyn sefydlu Rondo Media ddwy flynedd yn ddiweddarach. Mae grŵp Rondo bellach yn cynnwys Yeti Media, sef is-gwmni sy’n canolbwyntio ar gynyrchiadau rhwydwaith, a Galactig, sef cwmni sy’n arbenigo yn y maes digidol a rhith-wirionedd. Mae Gareth wedi cydgynhyrchu deunydd ar gyfer ystod eang o ddarlledwyr rhyngwladol gan gynnwys Berlin Concert for Peace yn 2018 a Cantata Memoria, digwyddiad i gofio Aberfan, yn 2016. Mae Gareth hefyd yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfer The Wall, a gaiff ei gynhyrchu ar y cyd â phartneriaid cynhyrchu o Corea ac Iwerddon. Bu’n un o feirniaid Gwobrau Rhyngwladol Emmy ac yn 2018 fe’i penodwyd yn Gadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), sef corff y diwydiant masnachol ar gyfer cwmnïau cynhyrchu o Gymru.

Ein tîm

Ify Iwobi

Pianydd clasurol/cyfoes yn enedigol o Abertawe yw Ify Iwobi, ac mae’n un o artistiaid ‘Welsh A List’ BBC Radio Wales. Astudiodd Berfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Brunel yn Uxbridge. Mae Ify yn perfformio’n unigol a chyda’i ensemble o amgylch Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru er enghraifft. Mae hefyd wedi perfformio’n rhyngwladol yn Ohio a Nigeria. Mae Ify yn cyfansoddi sgoriau i draciau sain yn ogystal â’i gweithiau gwreiddiol ei hun. Mae’r darnau y mae wedi’u rhyddhau yn cynnwys ‘Flying High,’ ei halbwm ‘Illuminate,' EP ‘Bossin’ It’ a 'Solo' gyda Luna Lie Lot. Mae dau o draciau’r EP ‘Bossin’ It’, sef ‘Love Rapsody’ (gyda Anwar Siziba) a ‘Thinking About You’ (gyda Jinmi Abduls) wedi’u dethol i’r ‘A List’ ar BBC Radio Wales. Cafodd 'Solo' gyda Luna Lie Lot hefyd ei dethol i’r rhestr. Mae’r gwobrau mae wedi’u hennill yn cynnwys: 2016: Cerddor Ifanc y Flwyddyn Hanes Pobl Dduon 2017: Cyflawnydd Ifanc Bae Abertawe (Y Celfyddydau Perfformio – Cerddor y Flwyddyn) 2019: Gwobr Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig yn y Celfyddydau a Cherddoriaeth 2020:

Hayley Smith

Hayley Smith

Mae gan Hayley ddawn am ddal hanfod y diwydiannau hyn a dod â nhw'n fyw. Dechreuodd yn Pirate.com, lle chwaraeodd ran hanfodol wrth drawsnewid y cwmni o fusnes cychwynnol bach i raddfa fyd-eang. Gyda’i sgiliau eithriadol mewn brand, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, ac ymgysylltu â’r gymuned, helpodd i roi Pirate.com ar y map i rymuso cerddorion ledled y byd. Oddi yno, ymunodd â Contact.xyz, gan arwain timau marchnata brand i drefnu cynnwys ffrwydrol, cysylltiadau cyhoeddus ac ymgyrchoedd. Wedi’i thanio gan angerdd i hyrwyddo pobl greadigol a busnesau newydd, yn 2022 mentrodd Hayley allan ar ei phen ei hun fel ymgynghorydd brand, marchnata a chynnwys. Ei nod fu grymuso mentrau bach a chanolig eu maint, gan roi’r offer a’r strategaethau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn tirwedd gystadleuol. Heddiw, mae Hayley yn cefnogi llond llaw o gleientiaid cerddoriaeth a thechnoleg newydd sy’n paratoi i fynd i’r farchnad yn 2023. Yn ddiweddar ymunodd â’r tîm yn Temple i weithio ochr yn ochr â’r Cyd-sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol i ddatblygu a lansio’r busnes ar draws y gofod cerddoriaeth.

JamesRadcliffe

James Radcliffe

Mae James wedi gweithio mewn rolau Gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus ers o leiaf 15 mlynedd, gan gynnwys 10 mlynedd yn gweithio yn Senedd Cymru. Mae James yn angerddol am gerddoriaeth, wedi chwarae mewn bandiau metel trwm yn ogystal â bod yn DJ clwb roc, ac mae eisiau sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn cael cyfle i fod yn rhan o greu cerddoriaeth.

LaurenceCollier

Laurence Collier

Mae Laurence yn gerddor, yn gyfansoddwr, yn drefnydd digwyddiadau, yn athrawes ac yn hyrwyddwr. Mae wedi bod yn ffigwr ym myd cerddoriaeth Caerdydd ers dros ddegawd, gan berfformio yn rhai o wisgoedd cerddorol gorau’r ddinas, sef gydag Afro Cluster a N’famady Kouyaté, cynnal digwyddiadau cerddoriaeth a chelf a bod yn fentor i’r genhedlaeth nesaf o sioeau cerdd dawn.

Ella

Pea Pearson

Ar hyn o bryd mae Pea yn eu thrydedd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn astudio’r obo.

Phil

Phil Sheeran

Mae gan Phil gryn brofiad ym maes rheoli lleoliadau, gan iddo weithio i Live Nation yn Nulyn ac ym Manceinion a, thros y 9 mlynedd ddiwethaf, fel Rheolwr Cyffredinol y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Mae gan Phil angerdd tuag at gerddoriaeth, addysg a lles pobl ifanc, ac mae’n ystyried bod Anthem yn gyfle gwych i gyfuno’r tair elfen hyn.

Ryan Singh

Ryan Singh

Mae Ryan yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ysgrifennydd Cwmni Cattleya CIC, y Cwmni Buddiannau Cymunedol llwyddiannus cyntaf i fod yn seiliedig mewn lleoliad addysgol. Yn y rôl hon, mae’n arwain ar recriwtio, datblygu pobl, y gyfraith a llywodraethu, a gweinyddiaeth. Yn ogystal â hyn, mae’n gweithio ym maes Profiad Cwsmeriaid a Recriwtio i gwmni marchnata blaenllaw yn y DU, sy’n hybu ei ddealltwriaeth o brosesau effeithiol er mwyn gwasanaethu sylfaen ehangach. Mae gan Ryan brofiad blaenorol o wasanaethu ar Fwrdd, o’i gyfnod yn Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Cwmni yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd lle bu’n gweithio ar lawer o Bwyllgorau’r Bwrdd, gan gynnwys: Cyllid ac Archwilio, Llywodraethu a Recriwtio Ymddiriedolwyr, Adnoddau Dynol, a Boddhad, Ymgysylltiad a Chyfranogiad.

fullsizeoutput_1d8-1

Tayla-Leigh Payne

Cyfansoddwr o Gymru yw Tayla-Leigh Payne, ac mae’n seiliedig yng Nghaerdydd, lle y graddiodd yn ddiweddar o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) â gradd Dosbarth Cyntaf er Anrhydedd mewn Cyfansoddi a Thechnoleg Greadigol. Mae ei chyflawniadau a’i chomisiynau diweddaraf yn cynnwys Composition Wales mewn cydweithrediad â BBC NOW, bod yn gyfansoddwr cynorthwyol ar gynhyrchiad Anfamol mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru, Folks of the Footbridge mewn cydweithrediad ag Operasonic, CoDI Symud, CoDI Arwain a Chynllun Encore Tŷ Cerdd, Cynllun ACT Band Tref Porth Tywyn, yn ogystal â chyflwyno ei gosodiad sain rhyngweithiol, MIXTAPE, am y tro cyntaf yng Ngŵyl Awyrgylch CBCDC. Yn flaenorol, roedd Tayla hefyd yn rhan o Fforwm Ieuenctid Anthem a Fforwm Ieuenctid Cerdd Cymru, yn ogystal â gweithio fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cerddoriaeth gyda YMCA Abertawe.

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.