- By Rhian Hutchings
- 2021-10-10
- 0 Comments
Awgrymiadau gorau Pea ar les ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021
Mae Pea, Aelod Fforwm Ieuenctid Anthem sydd yn chwarae’r obo, yn siarad am y rôl y mae cerddoriaeth yn ei chwarae yn eu lles
Mae cerddoriaeth wedi bod yn graig imi erioed a bydd felly byth. Pan ddechreuais ddysgu’r obo yn 8 oed, doedd gen i ddim syniad o’r pwysigrwydd y byddai’n dod i’w chwarae yn fy mywyd, ac ni wnes i ragweld sut y byddai’n dod yn un o’r ffyrdd rydw i’n ymdopi â bywyd bob dydd. Yn yr ysgol uwchradd dechreuais gael trafferth sylweddol gyda fy iechyd meddwl, gan gael pyliau o banig difrifol a olygai fy mod yn aml yn gorfod gadael fy ngwersi ac weithiau roeddwn yn teimlo’n rhy isel i godi o’r gwely a mynd i’r ysgol hyd yn oed. Gallai’r llwybr yma fod wedi bod yn drychinebus pe na bawn i wedi cael fy obo a cherddoriaeth yn fy mywyd. Weithiau, wrth gael y pyliau o banig gwaethaf, byddwn yn rhoi fy nghlustffonau ymlaen ac yn suddo i mewn i gymhlethdodau’r gerddoriaeth; ni waeth beth fyddai’r genre, byddwn yn ymchwilio i ddyfnderoedd yr alawon, yn sylwi ar y manylion cerddorol lleiaf, ac yn dyrannu’r offerynnau mwyaf cymhleth. Ac yna roeddwn i’n teimlo’n dawelach.
Rwy’n cofio enghraifft benodol pan euthum i’r ysgol gan wybod fy mod yn teimlo yn rhy isel i fod yno. Ond yn lle disgyn i mewn i affwys tywyll artaith feddyliol, euthum i ystafell ymarfer a chwarae fy obo. Chwaraeais yn uchel, fel pe bawn yn sgrechian fy holl emosiynau drwy’r offeryn, ac wedi hynny roeddwn yn teimlo pwysau enfawr yn codi oddi ar fy ysgwyddau fel pe bai pŵer cerddoriaeth wedi dileu cysgod beichus iselder. Yn y foment honno, roeddwn i’n gwybod mai cerddoriaeth oedd fy math mwyaf effeithiol o therapi.
Ers hynny, rwyf wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) ac wedi bod ar dreigl a theimlo’r drwg a’r da. Yn yr un flwyddyn o’m diagnosis, 2018, dechreuais astudio gradd mewn Perfformiad Obo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac rwyf bellach yn cychwyn ar fy mlwyddyn olaf, tra hefyd yn clyweld ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig. Wedi’i nodweddu gan emosiynau dwys sy’n esgyn yn gyflym, nid yw BPD wedi gwneud bywyd fel myfyriwr cerdd yn hawdd – bu cyfnodau pan nad oeddwn i prin yn gallu cyffwrdd â’m obo, gwaeleddau a theithiau ysbyty dirifedi, a hyd yn oed ysfeydd i roi’r gorau i gerddoriaeth yn gyfan gwbl.
Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi cael cymaint o eiliadau o ysbrydoliaeth a llawenydd cerddorol pur: chwarae gyda Cherddorfa Symffoni RWCMD mewn cyngerdd, cyngerdd arbennig Orchestradventure i gynulleidfa o blant ysgol, rhyddhau fy nhrac demo cyntaf ar wasanaethau ffrydio a chyflwyno fy nghyfansoddiad fy hun ar gyfer obo, offerynnau taro ac electroneg mewn datganiad yn RWCMD. Mae wedi bod yn werth i mi wthio trwy’r amseroedd anodd ar gyfer yr eiliadau goleuedig hyn. Pryd bynnag mae fy meddwl yn teimlo’n arbennig o dywyll, rwy’n ceisio cofio sut roedd yn teimlo i fod ar goll yn llwyr mewn ecstasi cerddoriaeth, a gwn y gallaf fynd trwy unrhyw beth.
I ddweud y gwir, mae cerddoriaeth wedi rhoi rheswm i mi ddal ati.
Y dyddiau hyn, rwy’n fwy ddiolchgar am fy BPD na digio gydag ef; pe na bai fy emosiynau wedi dwysáu cymaint, ni fyddwn wedi gallu profi llawenydd meddwol cerddoriaeth yn yr un modd, ac yn sicr ni fyddwn wedi gwneud cysylltiad mor ddwfn ag ef.
Mae cerddoriaeth wirioneddol yn fendith ac mae fy mywyd yn ddyledus iddo.
Pum awgrym gorau Pea:
Byddwch yn ymwybodol o’ch terfynau: mae’n hanfodol i gerddor wybod pryd i stopio a chadw eu hofferyn – p’un a bo hynny am ychydig oriau neu ychydig ddyddiau. Nid yw gwthio trwy eich terfynau byth yn fuddiol a bydd yn gwneud mwy o ddrwg nag o les.
Mae’n iawn dweud na. Ar ôl blwyddyn dan glo, mae’n haws teimlo eich bod chi’n colli allan, sy’n golygu efallai y byddwch chi’n teimlo rheidrwydd i ddweud ie wrth bopeth; fodd bynnag, gallwch chi gael eich llethu gan yr hyn rydych chi wedi’i ymrwymo iddo. Ni fydd unrhyw un yn dal dig os byddwch chi’n gwrthod cyfle neu’n dweud na.
Os ydych chi’n cael trafferth, gofynnwch am help. Mae yna bobl bob amser yn barod i’ch pwyntio i’r cyfeiriad cywir, ni waeth pa mor unig ydych chi’n teimlo.
Gwrandewch ar gerddoriaeth a fydd yn eich codi pan fyddwch yneimlo emosiynau negyddol. Er enghraifft, gall fod yn demtasiwn gwrando ar gerddoriaeth dywyll, emosiynol i bwysleisio’ch tristwch, ond gwrthsefyll y demtasiwn honno yw’r peth gorau y gallwch chi ei wneud i chi’ch hun. Chwaraewch rywbeth cyffrous a chael bwgi.
Efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi allan o gysylltiad â cherddoriaeth os ydych chi’n mynd trwy amser tywyll ond ceisiwch gofio y byddwch chi’n gwthio drwy’r duwch ac yn cwympo yn ôl mewn cariad ag ef eto yn y pen draw.