Partneriaethau Corfforaethol

Rydym eisiau gweithio gyda chi

Gall partneru ag elusen, ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio i’ch busnes chi, fod yn brofiad boddhaol a gwerth chweil. Gall gyfrannu’n gadarnhaol tuag at eich brand, eich enw da, a diwylliant eich cwmni, ac arwain at fanteision busnes ehangach hefyd.

Mae Anthem yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid corfforaethol i ddeall beth rydych eisiau ei gyflawni o’ch partneriaeth ag elusen. Gan fod gwahanol fathau o fusnesau, mae hefyd gwahanol fathau o bartneriaethau corfforaethol.

Mae Anthem yn gatalydd i gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, ac yn ariannu gwaith a fydd yn creu newid ac mae gwaith partneriaeth yn greiddiol i’r hyn a wnawn. Drwy weithio gyda ni, byddwch yn cefnogi rhaglenni a fydd yn canolbwyntio ar alluogi mynediad, creu cyfleoedd a meithrin talent.

Boed yn enwebu Anthem yn ‘Elusen y Flwyddyn’, darparu profiad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth i bobl ifanc neu ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol i gyrraedd ardaloedd mwyaf difreintiedig a gwledig Cymru. Mae ein tîm yn datblygu perthnasoedd pwrpasol â chwmnïau sy’n canolbwyntio ar eich anghenion busnes, gan helpu Anthem hefyd i gyflawni ein nodau strategol, sef galluogi mynediad, creu cyfleoedd a meithrin talent i bob person ifanc ledled Cymru.

Hands in the air

Pam gweithio gyda ni?

Mwy o ymgysylltu â staff a datblygu sgiliau drwy weithgareddau codi arian ac adeiladu tîm

Rhoi eich rhaglen o Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ar waith drwy gyfleoedd gwirfoddoli, trosglwyddo sgiliau, a lleoliadau gwaith.

Codi ymwybyddiaeth brand drwy noddi a rhoddion corfforaethol

Partneriaethau Elusen y Flwyddyn, rhoddion mewn nwyddau a chymorth pro bono

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.