Bydd y Noddwyr Sefydlol yn dod â grŵp o unigolion hael ynghyd sy’n rhannu gweledigaeth Anthem gydag angerdd.
Bydd eich cefnogaeth yn galluogi Anthem i ddenu cyllid newydd i Gymru a datblygu gwaddol cenedlaethol parhaol i bobl ifanc a’u cerddoriaeth, gan feithrin talent ac uchelgais. Drwy fod yn Noddwr Sefydlol, gallwch greu effaith lle mae’n cyfri fwyaf, a’n helpu i dyfu a chychwyn ar fudiad o newid trawsffurfiol. Mae Anthem yn cychwyn ar daith gyffrous a bydd eich cefnogaeth chi ar y cam allweddol hwn yn ein helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor cyfleoedd cerddoriaeth i bobl ifanc ledled Cymru.
Cylch y noddwyr sefydlol
Bydd y Noddwyr Sefydlol yn cael eu gwahodd i ymuno â Chylch y Noddwyr Sefydlol. Fel rhan o’r grŵp arloesol hwn o unigolion, cewch eich gwahodd i:
– Rannu eich angerdd a’ch doethineb ynglŷn â’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru gyda’ch cymheiriaid
– Cwrdd hyd at dair gwaith y flwyddyn, i glywed y newyddion diweddaraf am gynlluniau a chyflawniadau Anthem a phrofi’r rhaglen
Os ydych yn rhannu’r angerdd hwn am gerddoriaeth a phob person ifanc yng Nghymru ac eisiau gwybod mwy am fod yn noddwr sefydlol, cysylltwch â ni.