Mae Cronfa Gerdd Anthem Cymru yn cynnig cyllid i sefydliadau i redeg prosiectau creu cerddoriaeth neu greu cyfleoedd dilyniant gyrfa gerddoriaeth yng Nghymru.
Os ydych chi’n chwilio am gyllid ar hyn o bryd i gefnogi’ch datblygiad fel cerddor ifanc yng Nghymru, rydyn ni wedi gwneud rhestr o gysylltiadau defnyddiol â chyllidwyr eraill a allai eich helpu chi.
Cofrestrwch ar ein rhestr bostio fel y gallwn ddweud wrthych am gyfleoedd Anthem eraill.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Atsain wedi ariannu 45 o sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru i greu prosiectau sy’n dileu rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae Atsain yn amlwg yn cael effaith drwy gynnig cyllid i sefydliadau, ond mae’n anodd nodi lle mae ein cyllid wedi cyfrannu at newid gwirioneddol yn y sector. Mae cymaint o ddealltwriaeth wedi’i datblygu drwy bedwar cylch agored o Atsain, ac mae gennym ni ddarlun llawer cliriach o’r rhwystrau i gerddoriaeth y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yng Nghymru.
Y cam nesaf yw i Anthem ddod yn fwy strategol yn ein ffordd o weithredu a llunio cylchoedd ariannu sy’n dod â sefydliadau sy’n mynd i’r afael â rhwystrau tebyg at ei gilydd i ddysgu a thyfu. Mae llais ieuenctid wrth galon Anthem, a bydd yn rhan allweddol o’r cam nesaf hwn yn ei ddatblygiad.
I lawer o bobl ifanc yng Nghymru, gall rhwystrau economaidd a chymdeithasol eu hatal rhag cael mynediad at rym trawsnewidiol cerddoriaeth ac elwa ohono. Yn Anthem, credwn ym mhotensial cerddoriaeth i sbarduno twf, hunanfynegiant, a lles i bob bywyd ifanc, waeth beth fo’u hamgylchiadau.
Mae cylch nesaf Cronfa Atsain yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn yn uniongyrchol. Gyda chymorth gan Youth Music, drwy gymorth Loteri Cod Post y Bobl, bydd y cylch ariannu newydd hwn yn galluogi sefydliadau i greu prosiectau sy’n cael gwared ar rwystrau fel caledi ariannol, diffyg modelau rôl, a diffyg rhwydweithiau yn y diwydiant.
Boed yn fater o greu cerddoriaeth, mentora, meithrin sgiliau, neu agor llwybrau i’r diwydiant cerddoriaeth, rydym am sicrhau y gall pobl ifanc o bob cefndir brofi’r llawenydd a’r cyfle a ddaw yn sgil cerddoriaeth.
Mae’r gronfa hon bellach ar agor i geisiadau newydd, ac yn cau am 5pm ddydd Llun 27 Ionawr 2025.
Mae’r panel yn cyfarfod ganol mis Mawrth a bydd yr ymgeiswyr yn derbyn hysbysiad a ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus erbyn diwedd mis Mawrth.
Lawrlwythwch a darllenwch y Canllawiau Ymgeisio a’r Cwestiynau Cyffredin isod. Dewch o hyd i fformatau hygyrch isod, gan gynnwys clyweledol a phrint bras.
I wneud cais
Rydym yn croesawu naratifau prosiect, tystebau, neu ddeunydd ategol arall ar ffurf fideo, powerpoint neu sain. Os byddwch yn dewis cyflwyno’ch cais mewn un o’r fformatau hyn nodwch y bydd angen i chi gyflwyno cyllideb ac amrywiol ddogfennau ategol ar ffurf ysgrifenedig o hyd. Ni ddylai naratifau prosiect ar ffurf fideo fod yn hwy na deng munud o hyd.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gronfa Atsain neu os hoffech chi drafod anghenion neu gostau mynediad ychwanegol, cysylltwch â’n Rheolwr Rhaglen, kofi.acheampong@anthem.wales
Dydd Mercher 15 Ionawr 11am-12pm
Ymunwch â’n gweminar Zoom i gael atebion i’ch holl gwestiynau am gronfa Atsain. Anfonwch e-bost i kofi.acheampong@anthem.wales i gadw lle.
Tanysgrifiwch i’n rhestr bostio i wneud yn siŵr eich bodyn dilyn holl
newyddion diweddaraf Anthem yn syth bin!