Ydych chi eisiau defnyddio eich angerdd er daioni? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno ag Anthem yn ein hymgyrch i greu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.
Mae gwirfoddoli gydag Anthem yn ffordd wych i wneud ffrindiau newydd, cael profiadau newydd a helpu i roi gwell mynediad at gyfleoedd ym myd cerddoriaeth i bobl ifanc nad ydynt yn cael cynnig y cyfleoedd hynny ar hyn o bryd.
Rydyn ni’n dîm bach ac angerddol gydag uchelgeisiau mawr ar gyfer y bobl ifanc rydyn ni’n eu cefnogi, ac rydyn ni angen eich help chi i gael hyd yn oed mwy o effaith ledled Cymru. O helpu gyda chasgliadau bwced mewn lleoliadau cerddoriaeth, a chefnogi digwyddiadau, i gymeradwyo rhedwyr Anthem yn Hanner Marathon Caerdydd, mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
I FYNEGI DIDDORDEB MEWN DOD YN WIRFODDOLWR ANTHEM LLENWCH EIN FFURFLEN GWIRFODDOLI
Pwy all wirfoddoli?
Mae croeso i unrhyw un 18 oed neu hŷn sy’n barod i helpu a rhoi ychydig o’u hamser ymuno â ni.
Faint o amser sydd angen i mi ymrwymo?
Rydyn ni’n ddiolchgar am unrhyw amser y gallwch chi ei roi, boed hynny’n ddigwyddiad un tro neu’n slot gwirfoddoli rheolaidd. Fel arfer mae gennym ni gyfleoedd misol i gymryd rhan ond rydym yn hyblyg i’r hyn y gallwch chi ei wneud.
Pa gefnogaeth fyddaf yn ei chael?
Byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch chi’r holl wybodaeth a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i wirfoddoli. Bydd hefyd gennych chi brif bwynt cyswllt yn nhîm Anthem felly bydd gennych chi bob amser rywun i droi atyn nhw os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau.
Gwirfoddoli o bell
Ddim yn byw yng Nghaerdydd? Cysylltwch â ni beth bynnag a chawn weld pa gyfleoedd y gallwn eu cynnig i chi.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, anfonwch e-bost at ein Rheolwr Codi Arian: rebecca.hobbs@anthem.wales
Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.