Anthem FFWD>>

CROESO I ANTHEM FFWD>>

Mae Anthem yn angerddol ynglŷn â rhoi lle canolog i bobl ifanc yn ein gwaith wrth i ni gymryd ein camau nesaf. Yn 2021 creodd Anthem brosiect Fforwm Ieuenctid, gan ddod â grŵp o bobl ifanc 16 i 24 oed ynghlwm â cherddoriaeth o bob math yng Nghymru ynghyd, i’w helpu i adeiladu llwybr i’r diwydiant cerddoriaeth a chefnogi gwaith Anthem. Daeth carfannau eraill o’r Fforwm Ieuenctid ynghyd yn 2022 a 2023, ac mae’r prosiect hwn bellach wedi dod yn Anthem FFWD >>.

POBL IFANC GREADIGOL Y BYD CERDDORIAETH… RYDYM NI’N RECRIWTIO! 
Ydych chi rhwng 17 a 24 oed, yn seiliedig yng Nghymru a gyda ddiddordeb mewn cerddoriaeth? 
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth, helpu i greu llwybrau i bobl ifanc gael i mewn i gerddoriaeth, a chyflymu eich datblygiad personol mewn cerddoriaeth yng Nghymru?
Ymunwch â ni – mae lle i chi yn Anthem FFWD>>!
AM BETH YDYM NI’N CHWILIO?

Rydym ni’n chwilio am bobl ifanc greadigol, 17-24 oed, sy’n cynrychioli amrywiaeth o brofiadau a genres cerddorol i ymuno ag Anthem FFWD>>. Nod Anthem yw rhoi pobl ifanc yng nghalon ein gwaith wrth i ni dyfu. Fe fyddem wrth ein bodd yn cydweithio gyda chi! 

Efallai eich bod yn gerddor gweithgar, yn dyheu i fod yn gerddor, yn astudio cerddoriaeth, yn gerddor ystafell wely, yn weithiwr cerddoriaeth proffesiynol sy’n gynnar yn eich gyrfa, yn wrandäwr brwd, yn ysgrifennu cerddoriaeth, yn blogio neu flogio am gerddoriaeth; neu’n rywun y mae cerddoriaeth yn gwneud gwahaniaeth iddynt.

Bydd hefyd angen i chi:

  • Bod yn seiliedig yng Nghymru
  • Bod yn gyfarwydd â phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a Zoom
  • Ymrwymo i fynychu cyfarfodydd
  • Bod â mynediad i’r we.
YMGEISIWCH NAWR!

Lawrlwythwch Anthem FFWD>> drwy’r ddolen isod. Bydd yr alwad yn dweud wrthych chi sut i wneud cais, dyddiadau’r sesiynau a beth sydd angen i chi sôn amdano yn eich ffurflen gais. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn ysgrifennwr da – mae yna hefyd ddewis i gyflwyno neges fideo yn lle.

LAWRLWYTHWCH YR ALWAD FAN YMA

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS YN SAESNEG FAN HYN

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS YN GYMRAEG FAN HYN

DYDDIAD CAU CYFLWYNO CAIS
5pm Ddydd Gwener 21 Mawrth 2025

“Rwy’n teimlo bod gen i syniad da o ble i ddechrau ar ôl y sgyrsiau llawn gwybodaeth rwy wedi bod yn rhan ohonyn nhw drwy FFWD.”

“Rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl broffesiynol yn y diwydiant ar FFWD sydd wedi helpu i gael un o fy nghaneuon ar BBC Introducing.”

“Mae wedi rhoi’r hyder i mi allu perfformio cân dri diwrnod yn unig ar ôl i mi ei sgwennu hi, a fyddwn i ddim wedi gwneud hynny cyn FFWD.”

“Mae Anthem wedi dysgu i mi fy mod i’n haeddu cael fy nghlywed a fy ngweld, ta waeth am fy anghenion ychwanegol. Rwy eisiau rhannu hynny ag eraill sydd heb ddysgu hynny eto.”

Anthem FFWD>>

Andrew Ogun

cerddor, ysgrifennwr, cyfarwyddwr creadigol ac ymgyrchydd

Anthem FFWD>>

Archie Howat

cynhyrchydd cerddoriaeth, rhedeg stiwdio recordio ac yn rhyddhau ei gerddoriaeth ei hun

Anthem FFWD>>

Blank Face

canwr/cyfansoddwr caneuon

Anthem FFWD>>

Charys Bestley

cynorthwyydd digwyddiadau llawrydd, cynrychiolydd sioeau a ffotograffydd

Anthem FFWD>>

Chloe Jane Lovell

feiolinydd, aelod o gerddorfa, myfyriwr Cerddoriaeth blwyddyn gyntaf, Prifysgol Caerdydd

Anthem FFWD>>

Dafydd Griffiths

aelod o fand (gitâr), myfyriwr cerddoriaeth yng Ngholeg Glynebwy

Anthem FFWD>>

Ella Pearson

oböydd, myfyriwr Perfformio Cerddoriaeth 3edd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Anthem FFWD>>

Gabriel Bernal

myfyriwr Busnes Cerddoriaeth, Prifysgol De Cymru

Anthem FFWD>>

James Prendergast

hyrwyddwr digwyddiadau byw, cyflwynydd sioe radio, rheolwr artistiaid

Anthem FFWD>>

Kyle Jones / Qye

cynhyrchydd cerddoriaeth, pianydd, gitarydd

Anthem FFWD>>

Mr X

oböydd, myfyriwr Perfformio Cerddoriaeth 3edd flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Anthem FFWD>>

Tayla-Leigh Payne

cyfansoddwr a myfyriwr Cyfansoddi blwyddyn olaf yn CBCDC


Fforwm Ieuenctid Anthem 2023

Darganfyddwch fwy am Fforwm Ieuenctid Anthem 2023 yma.

Fforwm Ieuenctid Anthem 2022

Darganfyddwch fwy am Fforwm Ieuenctid Anthem 2022 yma.


Fforwm Ieuenctid Anthem 2021

Darganfyddwch fwy am Fforwm Ieuenctid Anthem 2021 yma.

Newyddion diweddaraf o Anthem

Gallwch ddod o hyd i’r holl newyddion diweddaraf o Anthem yma yn ein blog!

Cefnogi Anthem a rhoddi

Gyda’ch rhodd, rydych yn cefnogi ein gweledigaeth gyffredin i greu Cymru lle gall
cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.