Cymru Greadigol yn buddsoddi mewn Porth newydd arloesol i gerddoriaeth a ddatblygwyd gan Anthem.


Cyhoeddwyd bod Porth Anthem yn un o 17 prosiect arloesol o bob rhan o Gymru sydd wedi derbyn cyllid fel rhan o Gronfa Sgiliau Creadigol Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei gweinyddu gan Cymru Greadigol. 
Nod y Gronfa Sgiliau Creadigol, sydd bellach yn ei hail gylch, yw meithrin talent newydd a phresennol trwy hyfforddi ac uwchsgilio unigolion ar draws sawl sector creadigol, gan gynnwys sgrin, cerddoriaeth, technoleg ymgolli, animeiddio a gemau.

Mae Anthem Cronfa Gerdd Cymru yn credu bod pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i chwarae eu rhan ac archwilio beth all cerddoriaeth ei wneud iddyn nhw. Eu cenhadaeth yw galluogi mynediad at gerddoriaeth, creu mwy o gyfleoedd a meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf at yrfaoedd cerddorol. Yn 2022 cynhaliodd Anthem ymgynghoriad â phobl ifanc ledled Cymru a oedd yn archwilio pa gymorth oedd ei angen arnyn nhw ar eu llwybr at gerddoriaeth. Dywedodd llawer o bobl ifanc nad oedden nhw’n gwybod ble i ddod o hyd i ffynonellau dibynadwy o wybodaeth ar-lein a’u bod yn ei chael yn anodd deall sut roedd pethau’n gweithio. Datblygodd tîm Anthem y syniad o’r Porth i fynd i’r afael â’r materion hyn – gwefan wedi’i chreu ar gyfer pobl ifanc ac yn cael ei churadu gan y gymuned gerddoriaeth yng Nghymru sy’n cynnig cyngor dilys yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Lansiwyd Porth Anthem yn gynnar yn 2023 i ddarparu man galw cyntaf i bobl ifanc yng Nghymru sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth a’u profiadau o’r diwydiant cerddoriaeth. Mae’r Porth yn blatfform ar-lein sy’n cyfuno adnoddau defnyddiol sy’n ymdrin â phynciau allweddol, cysylltiadau â sefydliadau cerddoriaeth allweddol eraill ledled Cymru, gwybodaeth am yrfaoedd mewn cerddoriaeth, a chyfleoedd cyfredol sydd ar gael ym maes cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r Porth hefyd yn cynnwys rhwydwaith ar Discord lle gall cerddorion ifanc a gweithwyr proffesiynol cerddoriaeth ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd.

Anthem UNLOCKED Showcase: Band o Abertawe A-Topic o ar ôl perfformio yn Oriel Elysium. Mewn cydweithrediad â sefydliadau o Abertawe, Future Blood a MAD Abertawe. Cefnogir gan Oriel Elysium a Hays Travel

Dywedodd Rhian Hutchings, Prif Weithredwr Anthem:

Mae pobl ifanc yn dechrau gydag angerdd enfawr am gerddoriaeth ac eisiau symud ymlaen yn gyflym wrth gysylltu â lleoliadau, rhoi eu cerddoriaeth ar-lein, a deall beth yw eu llwybr. Mae gan Borth Anthem gymaint o botensial a bydd cymorth gan y Gronfa Sgiliau Creadigol yn allweddol i’w ddatblygu i fod yr adnodd gwerthfawr rydyn ni’n gwybod y gall fod, a hynny i gymaint o gerddorion a gweithwyr proffesiynol ym maes cerddoriaeth.”

Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant:

Mae Porth Anthem yn fenter wych sy’n grymuso cerddorion ifanc ledled Cymru trwy roi’r offer, y cysylltiadau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud eu ffordd yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae’n gyffrous gweld sut y bydd ein Cronfa Sgiliau Creadigol yn helpu’r platfform hwn i barhau i esblygu, gan ddarparu adnoddau amhrisiadwy a chreu cymuned o greadigrwydd. Pob lwc i bawb!”

Dywedodd Lennon Williams, aelod o Anthem FFWD>> a Rheolwr Prosiect y Porth:

Fel cerddor ifanc yng ngogledd Cymru, dwi wedi ei chael yn anodd gwneud cysylltiadau a dod o hyd i gyfleoedd ac adnoddau a all fy helpu i symud ymlaen. Mae gweithio gydag Anthem wedi fy helpu i gysylltu ag adnoddau a chymorth gwerthfawr yn y diwydiant. Nawr rydyn ni’n creu Porth Anthem i helpu mwy o gerddorion ifanc yng Nghymru i deimlo’n rhan o gymuned a chael gafael ar y canllawiau sydd eu hangen arnyn nhw i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa gerddorol.”

Dros y 18 mis nesaf, bydd tîm Porth Anthem yn mireinio’r platfform, gan ei wneud yn fwy hylaw i ddefnyddwyr ac yn hawdd ei lywio. Bydd 40 o adnoddau newydd yn cael eu creu gan gynnwys adnoddau ar-lein, cyfres o dri phodlediad a 6 gweminar dan arweiniad pobl ifanc greadigol. Bydd ein rhwydwaith Discord yn datblygu gweithgareddau a digwyddiadau newydd ar-lein i’n haelodau. Trwy gydol yr holl broses ddatblygu, bydd Anthem yn ymgynghori’n gyson â phobl ifanc greadigol i sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei greu yn addas i’r diben ac yn rhoi lle i bobl gyfrannu syniadau ar gyfer cynnwys.

Ewch i Borth Anthem fan yma:

Beacons SUMMIT 2024 Cynhadledd Atseinio - digwyddiad rhwydweithio cerddoriaeth ieuenctid Cymru gyfan yn Utilita Arena Caerdydd