Cyfarfod Rhwydwaith Atsain
10am a 12.30pm ddydd Iau 16 Tachwedd
Mae rhwydwaith practis Atsain yn rhwydwaith ar gyfer pob sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a cherddoriaeth, gan gynnwys sefydliadau celfyddydol, sefydliadau cymunedol, gwasanaethau cerdd, asiantaethau lleol a chyllidwyr. Mae’n gweithredu ochr yn ochr â chronfa Atsain, sy’n cefnogi prosiectau ar gyfer pobl ifanc 0 – 25 oed sy’n ymwneud â cherddoriaeth sy’n wynebu rhwystrau oherwydd amgylchiadau bywyd megis materion daearyddol, iaith, hunaniaeth neu gefndir. Pwrpas y rhwydwaith yw galluogi rhannu gwybodaeth a meithrin cydweithio ar draws y sector cyfan er mwyn sicrhau newid strategol.
Cynhelir y cyfarfod nesaf rhwng 10am a 12.30pm ddydd Iau 16 Tachwedd drwy Zoom. Byddwn yn trafod ein diwrnod rhwydwaith personol cyntaf ym mis Chwefror 2024, yn ogystal â rhannu diweddariadau prosiect.