Mae Anthem ar ymgyrch i greu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc.
Rydym yn gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar bobl ifanc, gan adeiladu rhaglen o brosiectau strategol a rhaglenni ariannu a all roi hwb iddynt ar eu taith drwy gerddoriaeth. Drwy gefnogi Anthem, rydych yn helpu i roi cyfle i fwy o bobl ifanc yng Nghymru gael manteisio ar gerddoriaeth a darganfod eu potensial. Os hoffech chi ymuno â chymuned Anthem, mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan!
Codi arian i ni
O gwisiau cerddoriaeth a chyngherddau noddedig i siopa ar-lein, mae llawer o bethau hwyliog y gallwch eu gwneud i helpu i rymuso pobl ifanc yng Nghymru drwy gerddoriaeth.
Drwy ymuno â’n cynllun rhoi rheolaidd, gallwch chwarae rhan gefnogol i gerddorion ifanc yng Nghymru, gan helpu i godi arian hanfodol i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent cerddorol ifanc.
Drwy weithio mewn partneriaeth ag Anthem, gallwch chi helpu i gael effaith gadarnhaol yn y cymunedau sy’n bwysig i chi. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwaith anhygoel!