- By Tori Sillman
- 2024-11-28
- 0 Comments
Anthem, Cronfa Gerdd Cymru yn cyhoeddi enw’r cadeirydd newydd, Emyr Afan OBE.
Cyhoeddodd Anthem, Cronfa Gerdd Cymru mai Emyr Afan OBE yw Cadeirydd newydd y Bwrdd, gan ddilyn David Alston MBE, a sefydlodd Anthem yn 2018.
Sefydliad elusennol yw Anthem, Cronfa Gerdd Cymru, sy’n creu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc. Cred bod pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i ymwneud â cherddoriaeth ac archwilio’r hyn y gall cerddoriaeth ei wneud iddyn nhw. Ei chenhadaeth yw galluogi mynediad at gerddoriaeth, creu mwy o gyfleoedd a meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf at yrfaoedd cerddorol.
Sefydlwyd Anthem yn 2018 yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn archwilio ffyrdd o gefnogi addysg gerddorol a chyfleoedd i bobl ifanc greu cerddoriaeth yng Nghymru. David Alston MBE, cyn Gyfarwyddwr yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, a sefydlodd Anthem i gychwyn a’i arwain fel Cadeirydd hyd yr haf eleni. Fe wnaeth David helpu i sefydlu’r sefydliad ac mae wedi tyfu’r tîm ers hynny, gan ddwyn unigolion a sefydliadau at ei gilydd ar draws Cymru sydd oll yn rhannu’r un angerdd dros bobl ifanc a’u cerddoriaeth yng Nghymru.
Creodd raglenni ariannu a chyfleoedd i sefydliadau cerdd ieuenctid a cherddorion ifanc ac yn ddiweddar lansiodd Borth Anthem fel y llwyfan ar-lein allweddol i gael gwybodaeth hanfodol am gael mynediad i’r byd cerddorol yng Nghymru.
Yn gerddor angerddol, cyn-artist recordio, a thenor â hyfforddwyd yn glasurol, mae Emyr Afan OBE yn gynhyrchydd a wobrwywyd ac yn arweinydd ar y cyfryngau yn y sector cerddoriaeth a theledu yng Nghymru. Mae hefyd yn Gadeirydd ar Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Emyr a sefydlodd y Pop Factory, y ganolfan i gerddoriaeth a’r cyfryngau yn y Porth, oedd yn darlledu’r sioe gerddorol wythnosol ar y teledu, The Pop Factory, yn y 2000au cynnar a roddodd hwb cychwynnol i yrfaoedd llawer o gerddorion a chyflwynwyr teledu gan gynnwys Alex Jones, Steve Jones, Sarra Elgan a Gethin Jones.
Ar hyn o bryd Emyr yw Prif Swyddog Gweithredol Afanti Media (Avanti Media gynt), un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf llwyddiannus Cymru. Enillodd wobrwyon fel cynhyrchydd, ac yn ddiweddar enillodd ddau Bafta am yr Adloniant Gorau gyda ‘Luke Evans Showtime!’ a ‘Max Boyce at 80’. Ar hyn o bryd Afanti yw Busnes y Flwyddyn Caerdydd, ac mae Emyr hefyd wedi ennill Entrepreneur y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd yn ddiweddar.
Dywedodd Cadeirydd Dros Dro presennol Anthem, Ryan Sing, “Arweiniodd gweledigaeth ac ymroddiad David, wrth sefydlu Anthem ac arwain y sefydliad, at weld Anthem yn ddylanwad allweddol i bobl ifanc a cherddoriaeth yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei ymrwymiad i feithrin talent gerddorol ifanc yng Nghymru. Rwyf wedi cyffroi o gael croesawu Emyr yn Gadeirydd newydd ar y Bwrdd i ni, sy’n dwyn cyfoeth o arbenigedd ac arweinyddiaeth gydag o i’r swydd hon. Bydd angerdd Emyr dros gerddoriaeth a’i arweinyddiaeth eithriadol yn amhrisiadwy i’n helpu i yrru rhai o’r themâu pwysig y mae arnom angen help gyda nhw yn eu blaenau i gefnogi pobl ifanc yr eiliad hon yng Nghymru.”
Dywedodd Emyr Afan “Rwyf wedi edmygu gwerthoedd a diben Anthem ers tro ynghyd â dycnwch a gweledigaeth y Prif Weithredwr Rhian Hutchings. Trueni na fyddai’r math hwn o ddarpariaeth ar gael pan oeddwn yn gerddor ifanc. Rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd mawr cael cais i helpu i wneud gwahaniaeth ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Rhian, yr Is-gadeiryddion Ryan a Gwenda a gweddill y tîm.”
Dywedodd Prif Weithredwr Anthem, Rhian Hutchings “Rwyf wedi cyffroi yn fawr am weithio gydag Emyr. Mae’n rhywun sydd wedi ymroi i newid pethau i gerddorion ifanc ac mae’n gwirioneddol ddeall eu taith ar ôl ei phrofi ei hun. Mae’n credu yng ngweledigaeth Anthem ac yn barod i wneud yr hyn sydd ei angen i’w gwireddu.”