Mae’r cylch nesaf Cronfa Atsain yn agor ar 27 Chwefror 2023 ac yn cau ar 27 Mawrth 2023. Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £10,000 am 6-24 mis o gyllid.
Lansiwyd Cronfa Atsain 12 mis yn ôl ac mae’n cynorthwyo sefydliadau sy’n gweithio ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud â cherddoriaeth ac sy’n wynebu rhwystrau oherwydd amgylchiadau bywyd, materion daearyddol, hunaniaeth neu gefndir, a chaiff ei chefnogi gan fuddsoddiad gan Youth Music diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, ac adnoddau Anthem gyda chymorth gan noddwyr sefydlu a Llywodraeth Cymru.
Yn 2022, bydd 27 o sefydliadau nawr yn elwa o gronfa o fwy na £220,000 i’w helpu i gynnal prosiectau cerddoriaeth ieuenctid i helpu i fynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae carfan Hydref 2022 o sefydliadau sy’n elwa o’r gronfa yn cynnwys:
Actifyddion Artistig, Music Theatre Wales, Côr Un Byd Oasis, UCAN, Uchelgais Grand, MAD Abertawe, Little Live Projects, Sistema Codi’r To, Tanio, Cyngor Torfaen, Rockworks, Wrexham Sounds.
Roedd pob sefydliad yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000 i’w helpu i gynnal prosiectau cerddoriaeth penodol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â rhwystr penodol i ymgysylltu.
Meddai Alex Rees, Arweinydd Dysgu Creadigol: Cerddoriaeth a Sain, UCAN:
“Mae UCAN yn falch iawn o dderbyn cyllid Atsain. Bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n haelodau dall a rhannol ddall, wrth i ni adnewyddu ein gwaith cerddoriaeth cyfranogol wyneb yn wyneb yn dilyn y pandemig. Byddwn yn datblygu ac yn rhannu canllawiau a thechnegau arferion gorau, yn archwilio hygyrchedd technoleg cerddoriaeth, ac yn cynnig dyfarniadau achrededig yn y celfyddydau.”
Dywedodd Llysgennad Anthem, Huw Stephens:
“Mae’n wych gweld ystod mor eang o sefydliadau cerddoriaeth ieuenctid ledled Cymru yn cael eu cefnogi gan Gronfa Atsain. Os nad ydyn ni’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cerddoriaeth yn eu hardal leol, wnawn ni ddim tyfu’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.”
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar y dudalen Ymgeisio am Gyllid.