Mae aelodau Fforwm Ieuenctid Anthem yn creu fideos ar gyfer ‘Summit’
Mae aelodau Fforwm Ieuenctid Anthem wedi bod yn gweithio gyda thîm ‘Ymgynghorwyr Ifanc’ o fudiad Bannau, fel rhan o Summit, cynhadledd ar-lein diwydiant cerddoriaeth Cymru i bobl ifanc gan bobl ifancwww.beacons.cymru
Mae’r grŵp wedi creu sgyrsiau a digwyddiadau sy’n rhannu eu syniadau a’u meddyliau am ddiwydiant cerddoriaeth Cymru, yn ogystal â chefnogi’r gwaith y tu ôl i’r llenni fel golygu fideo a chyfieithu. Dyma rai o’r fideos a wnaethant.
Canwr/cyfansoddwr Blank Face – Adeiladu eich Gyrfa Bortffolio
Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw ystyr Gyrfa Bortffolio? Neu pam fod yr un enw yn ymddangos ar draws meysydd gwahanol o fewn cerddoriaeth?
Wel, rhain yw ‘hustlers’ y diwydiant cerddoriaeth, yr entrepreneuriaid sy’n prysur gwneud enw i’w hunan a ddim yn ofn rhoi syniad ar waith, gan lwyddo neu fethu.
Ymunwch ac aelod y Ffowrm Ieuenctid, Blank Face, wrth iddo roi cyngor ar sut i adeliadu gyrfa bortffolio.
Mae Blank Face yn ystyried ei hun fel mentrwr cyfresol, fel cerddor mae’n plethu llu o genres fel hip-hop, pop, soul a cherddoriaeth efengyl gyda emosiynau a feibs gwahanol. Ar ochr ei yrfa cerddorol, mae’n ddylanwadwr profiadol ar gyfryngau cymdeithasol, yn gyfansoddwr i artistiaid eraill, yn ymgynghorydd cerddorol a mwy.
Os ydych chi eisiau ehangu eich cyfleoedd gyrfaoedd, yna dyma’r sesiwn i chi.
Gabriel Bernal – Recordio eich prosiect gydag Ableton
Mae Gabriel Bernal, neu Gabby, yn gynhyrchydd sy’n gweithio yng Nghaerdydd ac yn aelod o Fforwm Ieuenctid Anthem. Yn ei fideo ar gyfer ‘Summit’, bydd yn cymryd gwrthrychau cyffredin o amgylch ei ystafell wely ac eu troi yn offerynnau gyda’r feddalwedd Ableton.
Bydd hefyd yn dangos y pump cam i’w broses cyfansoddi a chynhyrchu: drymiau, bâs, awyrgylch, effeithiau a llais. Mae Gabby yn rhan o’r ddeuawd cynhyrchu Ageua sy’n arbrofi gyda synnau electroneg sydd wedi’u hysbrydoli gan gerddorion fel Joe Turner, Bonobo a Flume.
Cerddor/cynhyrchydd Qye – Recordio ar y Ffordd
Erioed wedi cael brên-wêf cerddorol ond yn y lle mwyaf anghyfleus neu yng nghanol nunlle?
Mae gan Kyle Jones, neu Qye, ffordd i ddatrys hyn! Mae wedi troi ei gar yn stiwdio, sy’n ei alluogi i gynhyrchu cerddoriaeth ar alw neu pan mae’r awen yn taro. Dysgwch sut mae troi eich car yn hwb creadigol. Helpwch eich ffrindiau, pan fo’n ddiogel gwneud wrth gwrs, gyda’u cerddoriaeth i chi allu cychwyn sefydlu cymunedau cerddorol.
Os ydych yn byw yng nghanol nunlle yn nhirlun prydferth Cymru ond heb mynediad at stiwdio recordio broffesiynol, neu’r incwm efallai, gadewch i Qye ddangos sut mae gwneud hyn yn ystod ei ddigwyddiad yn ‘Summit’.