“Mae’n gwneud i fod yma deimlo’n fwy na bodoli, mae’n gwneud iddo deimlo eich bod chi’n fyw.”
Mae cerddoriaeth yn hanfodol a phwerus i bobl ifanc. Mae pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i gymryd rhan ac archwilio’r hyn y gall cerddoriaeth wneud iddyn nhw.
Mae Amplify yn blatfform i unigolion brwdfrydig drafod cwestiynau’n ddwys a chodi pynciau pwysig ynglŷn â cherddoriaeth ieuenctid ledled Cymru. Caiff Amplify ei gyflwyno gan Ify Iwobi, cerddor a phianydd sy’n seiliedig yn Abertawe, ynghyd ag aelodau’r Fforwm Ieuenctid. Bydd y podlediad yn archwilio gwerth cerddoriaeth i bobl ifanc, ac yn cwrdd â cherddorion a sefydliadau sy’n neilltuo eu hamser i wella bywydau pobl ifanc drwy gerddoriaeth yng Nghymru.
Bob mis, bydd Anthem yn gofyn cwestiwn gwahanol ynglŷn â cherddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, gan roi thema i’r podlediad ac ysgogi trafodaeth ar draws ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn y bennod gyntaf, gofynnwn: “Ar ba oedran ddylem ni ddechrau mwynhau cerddoriaeth?”
I’n helpu i ateb y cwestiwn yma, yn ymuno ag Ify Iwobi fydd Helen Woods, cyfansoddwr ac arbenigwr ar y blynyddoedd cynnar; Emma Coulthard o Wasanaeth Cerddoriaeth Sir Caerdydd a Bro Morgannwg; a Lucy Clement-Evans o brosiect Codi’r To yn y gogledd. Mae ein gwesteion yn sôn wrthym am eu prosiectau cerddoriaeth yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru a pham ei bod yn bwysig i blant fod â cherddoriaeth yn rhan o’u bywyd o’r cychwyn cyntaf.
Rydym ni hefyd yn clywed gan ein Fforwm Ieuenctid sy’n sôn am eu profiadau personol a’u hatgofion cyntaf oll o gerddoriaeth.
Mae Amplify bellach yn fyw ac ar gael i wrando arno ar y prif blatfformau ffrydio!
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i glywed newyddion, sesiynau cymryd yr awenau ac erthyglau’n ymwneud â’r cwestiwn…
“Ar ba oedran ddylem ni ddechrau mwynhau cerddoriaeth?”
Os oes gennych bwynt yr hoffech ei godi neu os hoffech ymuno â’r drafodaeth, mae croeso mawr i chi wneud! Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar gwestiwn y mis. Tagiwch ni a chyfeiriwch atom ar Twitter, Instagram neu Facebook er mwyn i chi gael dweud eich dweud!