Ydych chi’n gerddor, yn creu ffilmiau, yn flogiwr, yn ddarlunydd, yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, neu’n rhywun sydd â phrofiad i’w rannu? Os ydych chi, rydyn ni am eich comisiynu chi a’ch syniadau ar gyfer Porth Anthem!
Yn dilyn cyhoeddi buddsoddiad Cymru Greadigol yn ein platfform digidol arloesol y Anthem Gateway, rydyn ni ar dân i ddechrau gweld ei botensial a chreu profiad ar-lein o ansawdd uchel i bobl ifanc dan arweiniad lleisiau creadigol ifanc o bob rhan o Gymru.
Credwn fod cerddoriaeth yn rym creadigol cryf sy’n bwydo hunan-fynegiant, datblygiad personol, a lles, a gyda’ch cymorth chi gall Porth Anthem fod yn bont hanfodol i bobl ifanc i’r diwydiant cerddoriaeth.
Y mis hwn rydyn ni’n dechrau ar y broses o gomisiynu pobl newydd sy’n creu cerddoriaeth, yn y Gymraeg a’r Saesneg, a chynnig cyfleoedd â thâl i ddatblygu ein cylch nesaf o adnoddau. Os ydych chi’n gerddor neu’n hyrwyddwr lleol sydd â dealltwriaeth i’w rhannu, yn godwr arian cymunedol sy’n ymwneud â cherddoriaeth, yn ddarpar farchnatwr neu’n rhywun sydd â rhywbeth i’w ddweud am gyflwr cerddoriaeth heddiw, rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru i’n helpu i fynd i’r afael â phynciau sy’n berthnasol i chi.
Os ydych chi’n creu fideos, yn ysgrifennu blogiau/erthyglau, yn cynhyrchu podlediadau neu ddigwyddiadau, neu efallai hyd yn oed rhywbeth yn y canol, ac yn eich ystyried eich hun fel crëwr cynnwys newydd cyffrous a deniadol, rydyn ni eisiau gweithio gyda chi ar y meysydd a’r elfennau canlynol o gynnwys.
Blogiadau / Erthyglau
Podlediadau
Fideos
Ffeithluniau
Canllawiau Sut i Wneud
Gweminarau
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn grëwr cerddoriaeth newydd ar gyfer Porth Anthem a sicrhau bod eich syniadau, eich cyflwyniadau a’ch llais yn cael eu clywed, anfonwch e-bost i Richard S Jones:richard.jones@anthem.wales
Esiamplau o gynnwys
Am y Anthem Gateway
Lansiwyd Porth Anthem yn gynnar yn 2023 i ddarparu man galw cyntaf i bobl ifanc yng Nghymru sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth a’u profiadau o’r diwydiant cerddoriaeth. Mae’r Porth yn blatfform ar-lein sy’n cyfuno adnoddau defnyddiol sy’n ymdrin â phynciau allweddol, cysylltiadau â sefydliadau cerddoriaeth allweddol eraill ledled Cymru, gwybodaeth am yrfaoedd mewn cerddoriaeth, a chyfleoedd cyfredol sydd ar gael ym maes cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r Porth hefyd yn cynnwys rhwydwaith ar Discord lle gall cerddorion ifanc a gweithwyr proffesiynol cerddoriaeth ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd.