Atseinio: Anthem x Beacons: Siapio’r Dyfodol
Mae Anthem Confra Gerdd Cymru a Beacons Cymru yn dod ynghyd unwaith eto yn 2025 i gyflwyno ail rifyn Atseinio – diwrnod sy’n dod â phawb at ei gilydd sydd â rhan yng ngherddoriaeth ieuenctid Cymru.
Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth 18fed o Chwefror yn Arena Utilita, Caerdydd ar gyfer dadl sector gyfan, darganfyddiad blaengar manwl a rhwydweithio ar sut i greu Cymru ble gallwn gynnal a datblygu gweithwyr proffesiynol ifanc ac uchelgeisiol yn y diwydiant.
Byddwn yn dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd o’r byd addysg, y sector gyhoeddus, gwasanaethau celfyddydol, lleoliadau cerddoriaeth, sefydliadau datblygu a mwy i helpu i lunio dyfodol Cymru.
Mae Atseinio yn ddiwrnod sy’n agored i bawb! Sicrhewch eich lle heddiw am £20 neu os ydych yn berson ifanc sydd â diddordeb e-bostiwch ni ar hello@beacons.cymru a chael lle am ddim yn yr ystafell.
Mynnwch eich tocynnau nawr!
Edrychwch ar y crynodeb o Atseinio yn SUMMIT 2024
Mae Atseinio yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn newid cadarnhaol a dilyniant i bobl ifanc ym myd cerddoriaeth yng Nghymru megis – cerddorion ifanc o bob cefndir, sefydliadau ieuenctid, sefydliadau cerdd, cynghorau, cyllidwyr, ac unrhyw un sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth.
https://www.youtube.com/watch?v=XjVn8-o-IIk